#wecanwales hashtag

Mae’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yn ceisio trawsnewid Cymru i fod yn Genedl Egnïol yn dilyn sgyrsiau gydag unigolion o bob rhan o’r wlad.

Y Weledigaeth

Cenedl egnïol lle mae pawb yn gallu mwynhau chwaraeon am oes.

Mwy o wybodaeth am y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon a sut gall gyfrannu at ddyfodol Cymru…

  • Cenedl Egnïol

    Y weledigaeth yw creu cenedl egnïol. Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib gael eu hysbrydoli i fod yn egnïol drwy chwaraeon.

  • Pawb

    Mae’r weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn gweld eu hunain fel rhai da mewn chwaraeon i bobl sy’n ennill medalau.

  • Am Oes

    Mae’r weledigaeth am oes, mae’n ymateb i anghenion pobl yng ngwahanol gamau eu bywyd.

  • Mwynhau

    Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu amrywiaeth eang o brofiadau positif fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon.

Y Genhadaeth

Drwy wneud hyn fe allwn ni ‘Ddatgloi manteision chwaraeon i bawb’

7 Nod Llesiant

Sut gall y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru gael effaith yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

#1 Cymru Lewyrchus

  • Hybu Cymru i’r Byd drwy berfformiad athletwyr elitaidd Cymru.
  • Hybu Cymru fel cyrchfan chwaraeon o ddewis drwy amgylcheddau naturiol eithriadol Cymru a’i chyfleusterau o safon byd.
  • Elwa ar lwyddiant chwaraeon.
  • Cyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli drwy chwaraeon a hamdden egnïol.
  • Datblygu addysg a sgiliau drwy chwaraeon a hamdden egnïol.
  • Cyflenwad cynyddol o ddarpariaeth leol, ehangu hygyrchedd cyfleoedd.
  • Prentisiaethau a gwirfoddoli’n darparu llwybr at gyflogaeth.

Diolch Tîm Cymru am gael defnyddio’r ffilm.

#2 Cymru Gydnerth

  • Cyfleoedd lleol i leihau ôl troed carbon.
  • Gwneud defnydd o adnoddau naturiol ac adnoddau wedi’u hadeiladu yn lleol.
  • Cyfleusterau chwaraeon carbon isel/carbon niwtral.
  • Cyflogwyr cyfrifol yn gymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol yn y sector chwaraeon.
  • Yr amgylchedd naturiol fel amgylchedd ar gyfer chwaraeon a hamdden yn cael ei ddeall a’i werthfawrogi i warchod ecosystemau.

#3 Cymru Iachach

  • Datgloi manteision chwaraeon i broblemau iechyd gan gynnwys iechyd meddwl.
  • Darparu cyfleoedd chwaraeon a hamdden i bob oedran, drwy gydol eu hoes.
  • Gwneud defnydd o gyfleoedd sy’n bodloni galw ffyrdd o fyw sy’n newid, drwy gydweithredu a chynhyrchu ar y cyd â dinasyddion, a chynyddu’r cyfleoedd i deuluoedd.
  • Cyflogwyr yn creu gweithleoedd egnïol gan ddefnyddio’r tir o’u cwmpas e.e. y defnydd o gawodydd, raciau beiciau, gweithio hyblyg i hybu cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden.
  • Darparwyr a chyflogwyr chwaraeon yn deall pwysigrwydd lles ac iechyd meddwl.
  • Amgylcheddau chwaraeon a hamdden yn cynnig opsiynau bwyd iach.
  • Canolfannau addysg a chymunedol yn rhannu asedau ar gyfer gweithgarwch chwaraeon – gan greu manteision iechyd i’r gymuned leol.
  • Presgripsiynau cymdeithasol gan ddarparwyr gofal iechyd sylfaenol.

#4 Cymru Sy’n Fwy Cyfartal

  • Profiadau byw ac anghenion presennol pob dinesydd yn cael eu deall.
  • Cyfleoedd lleol a hyblyg ar gael i ddiwallu anghenion y gymuned gyfan.
  • Cyfleoedd yn hygyrch a chynhwysol a chyfleoedd cost isel a dim cost ar gael hefyd.
  • Gweithgareddau’n cael eu cynnal mewn amgylcheddau diogel.
  • Cyfleoedd ar gael ar gyfer teuluoedd ac mae gofal plant yn cael ei ddarparu.
  • Offer chwaraeon yn cael ei rannu a’i ailgylchu.
  • Sefydliadau’n cydweithio i greu llwybrau i chwaraeon ar draws sectorau fel addysg, tai, gofal cymdeithasol, gwasanaethau ieuenctid a lleoliadau crefyddol.
  • Gweithredu positif yn cael ei ddefnyddio i gefnogi grwpiau a dangynrychiolir, dim ots pa mor isel yw’r niferoedd.
  • Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erlid.
  • Dealltwriaeth o ba grwpiau all gael eu heffeithio’n negyddol gan gamau gweithredu.

#5 Cymru o Gymunedau Cydlynus

  • Ymwneud a pherchnogaeth y gymuned yn diwallu anghenion lleol.
  • Cyflawniadau lleol yn cael eu dathlu, dim ots pa mor fach.
  • Hybir diogelwch cymunedol, gan leihau cyfraddau troseddu ac ymddygiad anghymdeithasol.
  • Datblygir modelau rôl positif drwy chwaraeon.
  • Sefydliadau’n rhannu adnoddau i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau gydol oes sy’n cael effaith bositif ar les pobl.
  • Cyfleusterau lleol yn hygyrch ac yn cael eu rhannu er budd y gymuned.
  • Cyfleusterau lleol yn cael eu defnyddio, eu gwerthfawrogi a’u cynnal a’u cadw.
  • Sefydliadau’n cydweithio i greu llwybrau i chwaraeon ar draws sectorau fel addysg, tai, gofal cymdeithasol, gwasanaethau ieuenctid, lleoliadau crefyddol a mwy.
  • Mae cyfleoedd lleol i wirfoddoli a datblygu sgiliau drwy chwaraeon.
  • Mae llwybrau o wirfoddoli i gyflogaeth.

#6 Cymru â Diwylliant Bywiog Lle Mae’r Gymraeg yn Ffynnu

  • Hybir dwyieithrwydd drwy chwaraeon.
  • Mae llwyddiannau cymunedau lleol a modelau rôl yn cael eu dathlu.
  • Mae digwyddiadau chwaraeon amlwg a hygyrch.
  • Hybu Cymru i’r Byd drwy berfformiad athletwyr elitaidd Cymru.
  • Hybu Cymru fel cyrchfan chwaraeon o ddewis, drwy amgylcheddau naturiol eithriadol Cymru a’i chyfleusterau o safon byd.
  • Modelau rôl amlwg mewn chwaraeon.

#7 Cymru Sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang

  • Adnoddau’n cael eu defnyddio’n gyfrifol a’u rhannu a’u hailgylchu.
  • Cyfleusterau’n gynaliadwy a chyfrifol.
  • Llai o ôl troed carbon drwy ddarpariaeth leol.
  • Y caffael ar draws y sector chwaraeon yn gyfrifol yn gymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol.
  • Defnyddir technolegau carbon isel a chanfyddir technolegau arloesol.

Drwy weithredu mewn ffordd briodol heddiw, yfory ac yn y dyfodol, gallwn wella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

  • Pwyso a mesur yr angen tymor byr a thymor hir a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

    • Mae'r weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru'n weledigaeth tymor hir a bydd yn rhoi cyfle i randdeiliaid gynllunio ar gyfer y tymor hir.
    • Datblygu cyfleoedd sy'n ymateb i anghenion pobl mewn cymdeithas sy'n newid.
    ICONS/CHEVRON PINK
  • Cyfrannu adnoddau at atal problemau rhag digwydd neu waethygu.

    • Creu cyfleoedd lleol i bawb ymuno.
    • Gwella lles, hunanhyder a chymhelliant pobl drwy weithgareddau sy’n hwyliog a chynaliadwy
    • Sicrhau bod chwaraeon yn hygyrch, cynhwysol a fforddiadwy, heb adael neb ar ôl
    • Arloesi, cymryd risgiau a bod yn feiddgar.
    • Dysgu sgiliau i bobl i gyflawni eu potensial.
    • Cydweithio, rhannu adnoddau a chwarae ein rhan.
    ICONS/CHEVRON PINK
  • Ystyried yr effaith ar yr holl nodau llesiant gyda'i gilydd ac ar gyrff eraill.

    • Mae’r Weledigaeth yn uno pobl sy’n gwneud penderfyniadau a sefydliadau drwy ei huchelgeisiau.
    • Drwy gydweithio gallwn ryddhau manteision chwaraeon i bawb.
    • Dylai rhanddeiliaid a darparwyr ystyried cyd-fynd â nodau llesiant a chynlluniau cyflawni lleol Cyrff y Sector Cyhoeddus.
    • Yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb, mae’r Weledigaeth yn cynyddu gweithredu i ddileu pob ffurf ar anghydraddoldeb ac yn sicrhau bod chwaraeon yn hygyrch, heb adael neb ar ôl.
    • Ni ddylid trin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol a dylid ei hystyried wrth sicrhau cyfranogiad oes mewn chwaraeon i bawb.
    ICONS/CHEVRON PINK
  • Cydweithio gyda phartneriaid eraill er mwyn cyflawni amcanion.

    • Mae’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yn eiddo i bawb yng Nghymru ac angen cefnogaeth pawb i sicrhau ei llwyddiant.
    • O’r rhai sy’n ymwneud â chwaraeon i eraill sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd, addysg, rheoli cyfoeth naturiol a datblygiad economaidd.
    • Gweithio, buddsoddi, dysgu a llwyddo gyda’n gilydd.
    ICONS/CHEVRON PINK
  • Cynnwys y rhai sy'n dangos diddordeb a cheisio eu barn.

    • Mae’r Weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn gweld eu hunain fel rhai da mewn chwaraeon i bobl sy’n ennill medalau.
    • Mae’n hybu cydweithredu, cydweithio a chynhyrchu ar y cyd i sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu cynllunio i annog cyfranogiad ar gyfer pawb, am oes, ym mhob cymuned.
    ICONS/CHEVRON PINK
  • ICONS/CHEVRON PINK
  • ICONS/CHEVRON PINK
  • ICONS/CHEVRON PINK
  • ICONS/CHEVRON PINK
  • ICONS/CHEVRON PINK

Pwyso a mesur yr angen tymor byr a thymor hir a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

  • Mae'r weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru'n weledigaeth tymor hir a bydd yn rhoi cyfle i randdeiliaid gynllunio ar gyfer y tymor hir.
  • Datblygu cyfleoedd sy'n ymateb i anghenion pobl mewn cymdeithas sy'n newid.

Cyfrannu adnoddau at atal problemau rhag digwydd neu waethygu.

  • Creu cyfleoedd lleol i bawb ymuno.
  • Gwella lles, hunanhyder a chymhelliant pobl drwy weithgareddau sy’n hwyliog a chynaliadwy
  • Sicrhau bod chwaraeon yn hygyrch, cynhwysol a fforddiadwy, heb adael neb ar ôl
  • Arloesi, cymryd risgiau a bod yn feiddgar.
  • Dysgu sgiliau i bobl i gyflawni eu potensial.
  • Cydweithio, rhannu adnoddau a chwarae ein rhan.

Ystyried yr effaith ar yr holl nodau llesiant gyda'i gilydd ac ar gyrff eraill.

  • Mae’r Weledigaeth yn uno pobl sy’n gwneud penderfyniadau a sefydliadau drwy ei huchelgeisiau.
  • Drwy gydweithio gallwn ryddhau manteision chwaraeon i bawb.
  • Dylai rhanddeiliaid a darparwyr ystyried cyd-fynd â nodau llesiant a chynlluniau cyflawni lleol Cyrff y Sector Cyhoeddus.
  • Yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb, mae’r Weledigaeth yn cynyddu gweithredu i ddileu pob ffurf ar anghydraddoldeb ac yn sicrhau bod chwaraeon yn hygyrch, heb adael neb ar ôl.
  • Ni ddylid trin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol a dylid ei hystyried wrth sicrhau cyfranogiad oes mewn chwaraeon i bawb.

Cydweithio gyda phartneriaid eraill er mwyn cyflawni amcanion.

  • Mae’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yn eiddo i bawb yng Nghymru ac angen cefnogaeth pawb i sicrhau ei llwyddiant.
  • O’r rhai sy’n ymwneud â chwaraeon i eraill sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd, addysg, rheoli cyfoeth naturiol a datblygiad economaidd.
  • Gweithio, buddsoddi, dysgu a llwyddo gyda’n gilydd.

Cynnwys y rhai sy'n dangos diddordeb a cheisio eu barn.

  • Mae’r Weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn gweld eu hunain fel rhai da mewn chwaraeon i bobl sy’n ennill medalau.
  • Mae’n hybu cydweithredu, cydweithio a chynhyrchu ar y cyd i sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu cynllunio i annog cyfranogiad ar gyfer pawb, am oes, ym mhob cymuned.

Chi a’r weledigaeth

Mae mwy nag un ffordd o fod yn rhan o’r Weledigaeth.

Background pattern for the Cymryd Rhan card

Cymryd Rhan

Bod yn gyfranogwr

Unrhyw un sy’n cymryd rhan ar ba lefel bynnag.
Background pattern for the Cefnogi card

Cefnogi

Bod yn gefnogwr neu’n rhiant

Unrhyw un sy’n helpu drwy fod yno, gan gyfrannu amser, egni ac ymdrech.
Background pattern for the Cyflawni card

Cyflawni

Bod yn wirfoddolwr neu’n hyfforddwr

Unrhyw un sy’n helpu drwy greu cyfleoedd i eraill.
Background pattern for the Llwyddo card

Llwyddo

Bod y gorau y gallwch chi fod

Unrhyw un sy’n cael llwyddiant personol.

Lawrlwytho’r pecyn adnoddau i gael gwybod sut mae datblygu’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon ymhellach.

Hashtag for #wecanwales

Bydd cyflawni hyn yn golygu ein bod yn gallu gwneud y canlynol…

  • Gwella lles, hunanhyder a chymhelliant pobl i gymryd rhan a llwyddo drwy weithgareddau sy’n hwyliog ac yn gynaliadwy
  • Darparu sgiliau i bobl i gyflawni eu potensial a chyrraedd eu nodau
  • Cefnogi cymunedau i ffynnu drwy greu cyfleoedd i bawb ymuno
  • Hybu Cymru i’r byd drwy ein rhagoriaeth chwaraeon

Byddwn yn gweithio yn y ffordd orau bosib i gyflawni'r canlynol…

  • Gweithio, buddsoddi, dysgu a llwyddo gyda’n gilydd
  • Creu profiadau sy’n groesawus, yn hwyliog ac yn ddiogel
  • Datblygu cyfleoedd sy’n lleol, yn weladwy ac yn ysbrydoledig
  • Sicrhau bod chwaraeon yn hygyrch, cynhwysol a fforddiadwy, heb adael neb ar ôl.

Cenedl Egnïol

Rydyn ni eisiau i bawb yng Nghymru gael eu hysbrydoli i fod yn egnïol drwy chwaraeon.

Mae’r weledigaeth yma’n cynnwys chwaraeon trefnus a hefyd yn croesawu amrywiaeth o weithgareddau fel cerdded, loncian neu ddawnsio mae pobl yn meddwl amdanynt weithiau fel hamdden.

Mae’r rhain yn gwneud cyfraniad arwyddocaol at y sbectrwm ehangach o weithgarwch corfforol y tynnir sylw ato isod.

Gweithgarwch Corfforol
(llosgi calorïau, curiad y galon yn cyflymu)
  • Llythrennedd Corfforol
    Gweithgaredd Wedi'i Gynllunio
    • Chwaraeon
      • Strwythuredig
      • Camp Gystadleuol
      • Camp Anffurfiol
      • Ymarfer a Ffitrwydd
      • Hyfforddiant
      • Gweithgareddau Unigol
    • Hamdden
      • Cerdded
      • Gweithgareddau Awyr Agored
      • Rhedeg
      • Nofio
      • Chwarae Strwythuredig
      • Dawns
    Gweithgarwch Corfforol
    (llosgi calorïau, curiad y galon yn cyflymu)
  • Amgylcheddau Egnïol
    Gweithgaredd Arferol
    • Teithio Egnïol
      • Cymudo Egnïol
      • Teithio Egnïol i’r Ysgol
      • Siwrneiau Pwrpasol
      • Cerdded a Beicio
    • Gweithgaredd Heb Feddwl
      • Gwaith Tŷ
      • Garddio a DIY
      • Chwarae Anffurfiol
      • Proffesiynau Egnïol
      • Arferion Gwaith Egnïol
    Gweithgarwch Corfforol
    (llosgi calorïau, curiad y galon yn cyflymu)

Gallu Gyda’n Gilydd

Mae’r weledigaeth hon ar gyfer chwaraeon yn perthyn i bawb yng Nghymru ac angen cefnogaeth pawb er mwyn llwyddo.

O’r rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwaraeon i eraill sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd, addysg, adnoddau naturiol a datblygiad economaidd.

Os ydych chi’n gwneud gwaith cymunedol, yn magu teulu neu’n rhedeg busnes – fe allwn ni i gyd rannu’r weledigaeth hon a chwarae ein rhan.

Drwy ddod at ei gilydd, gall pobl o bob oed ac o bob cymuned ddatgloi manteision chwaraeon i bawb.

Adnoddau

Mynd â’r weledigaeth ar gyfer chwaraeon oddi ar-lein a chefnogi’r mudiad.

Pecyn Adnoddau’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon
  • Cymryd Rhan
    Addysgu eich hun ynghylch beth allwch chi ei wneud i fod yn rhan o’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon ac ymarfer y gwerthoedd hyn.
  • Cefnogi
    Bod yn bartner i’r Weledigaeth ac arddangos ein logo ar eich gwefan a rhoi poster ar wal i ddangos eich cefnogaeth.
  • Rhannu
    Defnyddiwch ein hasedau cymdeithasol i siarad am y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon a chofiwch ddefnyddio’r hashnod #GalluMaeCymru
Lawrlwytho’r pecyn adnoddau
Lawrlwythiadau
  • Cyfranogiad Oedolion mewn Chwaraeon (35 i 64)
  • Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc mewn Chwaraeon
  • Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb – Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru
  • Papur Gwybodaeth am Gydraddoldeb – Chwaraeon a Fi
  • Cyfranogiad Pobl Hŷn yng Nghymru – y Sgwrs
  • Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon – Crynodeb
  • Chwaraeon A Fi – Y Sgwrs
  • Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru - Defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Cymryd Rhan

Rydyn ni eisiau i’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon dyfu, helpwch i fod yn rhan ohoni drwy ddefnyddio’r hashnod.

Defnyddiwch #GalluMaeCymru gyda’ch gweithgarwch chwaraeon i fod yn rhan o’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru